Lyrics

Dacw hi, a'i gwyneb mewn poen Mae hi newydd gael ei phigo gan bry ar ei chroen Mae'n gafael mewn papur cyfagos a'i daro ar y wal Mae'n gadael gwenynen ar ôl sydd yn sicr wedi ei ddal Mae hi'n ddoniol (Mae hi'n ddoniol) Mae'n sylwi pob dim (Sylwi pob dim) Ac mae'n medru gweld Drwy gefn ei phen Dim diolch i'r drefn Mae'n fore Iau ac mae'n mynd i'r gwaith Wrth gau ei drws mae hi'n tynnu at saith Wrth gau ei chot rhag yr oerni mae hi'n colli pishyn punt Mae'n ei bigo o fyny yn syth cyn troi nôl mewn i'r gwynt Mae hi'n ddoniol (Mae hi'n ddoniol) Mae'n sylwi pob dim (Sylwi pob dim) Ac mae'n medru gweld Drwy gefn ei phen Dim diolch i'r drefn Mae hi'n ddoniol (Mae hi'n ddoniol) Mae'n sylwi pob dim (Sylwi pob dim) Mae hi'n ddoniol (Mae hi'n ddoniol) Neith hi chwerthin ar ddim (Chwerthin ar ddim) Mae hi'n ddoniol (Mae hi'n ddoniol) Mae'n sylwi pob dim (Sylwi pob dim) Ac mae'n medru gweld Drwy gefn ei phen Dim diolch i'r drefn Unwaith drachefn Amen
Writer(s): Gruffudd Rhys, Dafydd Ieuan, Dewi Roberts, Rhodri Puw Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out