Music Video

Haws i'w Ddweud
Watch {trackName} music video by {artistName}

Featured In

Credits

PERFORMING ARTISTS
Bwncath
Bwncath
Performer
COMPOSITION & LYRICS
Robin Llwyd Jones
Robin Llwyd Jones
Songwriter
Llywelyn Elidyr Glyn
Llywelyn Elidyr Glyn
Songwriter
Alun Williams
Alun Williams
Songwriter
Twm Ellis
Twm Ellis
Songwriter
PRODUCTION & ENGINEERING
Robin Llwyd Jones
Robin Llwyd Jones
Producer

Lyrics

'Dw i 'di ista yng ngwaelod pydew du fy nghalon i Yn syllu lle bu'r goelcerth gynt yn llosgi A'r hyn o goed oedd gen i ar ôl 'di gwlychu yn y stormydd A'r rheiny yn ailgychwyn yn dragywydd 'Dw i 'di treulio oria' maith yn ceisio cynna'r tân Heb ddim ond dagrau poeth o wreichion mân Ond chdi ddoth draw fel haul 'rôl glaw A sychu wnaeth y coed A'r tân sy'n llosgi fwy na 'rioed Ond mae'n haws i'w ddweud nac ydi o'i wneud I afael yn dy law A'r gwyntoedd sy'n fy erbyn i Yn chwythu yma a thraw Ma' 'na dywydd gwell ar y gorwel pell Tu hwnt i'r gwynt a'r glaw Dy ola' sy'n fy arwain i I'r dyddia' gwyn a ddaw O'n i'n teimlo weithia' mod i'n dechra' colli ffydd A hynny yn dibynnu ar y tywydd Ond chdi ddoth draw fel haul 'rôl glaw A sychu wnaeth y coed A'r tân sy'n llosgi'n fwy na'r 'rioed Ond mae'n haws i'w ddweud nac ydi o'i wneud I afael yn dy law A'r gwyntoedd sy'n fy erbyn i Yn chwythu yma a thraw Ma' 'na dywydd gwell ar y gorwel pell Tu hwnt i'r gwynt a'r glaw Dy ola' sy'n fy arwain i I'r dyddia' gwyn a ddaw Ond mae'n haws i'w ddweud nac ydi o'i wneud I afael yn dy law A'r gwyntoedd sy'n fy erbyn i Yn chwythu yma a thraw Ma' 'na dywydd gwell ar y gorwel pell Tu hwnt i'r gwynt a'r glaw Dy ola' sy'n fy arwain i I'r dyddia' gwyn a ddaw Dy ola' sy'n fy arwain i I'r dyddia' gwyn a ddaw
Writer(s): Alun Williams, Llywelyn Elidyr Glyn, Robin Llwyd Jones, Twm Ellis Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out