Lyrics
Isda yn y Gorlan Goffi yn cofleidio panad o de,
Erbyn hyn ro'dd hi'n fora Sadwrn
Ond roedd ogla nos Wener yn dal yn y lle.
Ara' oedd y post mortem,
Roedd y corff yn mynnu cael byw,
Claddu'r diawl yn sydyn
A'r Efengyls yn d'eud "Jiw, jiw!"
Brengain ddaeth â negas:
"Ma' pybs y dre di cau",
Brengain ddaeth i 'mywyd,
Di o'm otch ma'r pybs di cau.
Isda yn y Gorlan Goffi yn disgw'l am banad o de,
Ma' Brengian am 'i nôl hi,
Ma'r lle ma'n llawn ond do's neb yn y lle,
Ond Brengain a fi sydd yma -
'Da ni'n ôl yn yr oes a fu,
Cwpan aur yn 'i dwylo
Llawn diod i leddfu'n sychad i.
Brengain o le doist ti?
O linell weddw bell
Llaw fywyd driw i Esyllt,
Ro'dd ti yn haeddu gwell.
Neb i ddewis sudd i suo,
Dŵr i olchi, hud i hudo merch,
I hudo merch!
Brengain ddaeth â negas:
"Ma' pybs y dre di cau",
Brengain ddaeth i 'mywyd,
Di o'm otch ma'r pybs di cau.
Lyrics powered by www.musixmatch.com