Lyrics

Miwsig isel sydd yn dianc i'r stryd Y glaw yn cadw rhythm ac yn glychu r'un pryd Dynas ddu beichiog sy'n arwain y blaen Myfyrwyr cydwybodol a'u wynebau yn straen Belican yn sgrechian ac yn fflachio i'r bît A batri yn pylsêtio i gerddoriaeth gan Heat Ma Dire Straits ar y Ffordd Caergybi A Led Zep mewn gwyn ar y wal Yn cadw cwmni i frad y Prifysgol A'r Tandoori Tandoori yn y Provencal Palmentydd yr A5 yn llysia bob lliw Afocado a tomato ac eraill - dim cliw Y lôn bost o Lunda'n yn 'rafu i stop Bob dim at bopeth ar werth ym mhob siop Siopwyr, archdderwyr, darlledwyr di-ri Ffrancwyr a ffasgwyr a'r hen Mr Li Ma Dire Straits ar y Ffordd Caergybi A Led Zep mewn gwyn ar y wal Yn cadw cwmni i frad y Prifysgol A'r Tandoori Tandoori yn y Provencal Styrio'r hen iaith yn y Glôb bron bob nos Menai Vaults, a'r Belle Vue, Bangor Aye a who knows? Bragwyr a bancwyr, bradwrs a fi Lefties a Welshies ac enwogion o fri Nuggets Mary Mary's a common jacks y byd Yn siarad Esperanto - dyna eneidiau y stryd Mae'n Mardi-Gras ym Mangor Ucha' Calypso ar wefus pob un Pobl Ed Povey yn chwerthin o'r walia A'r canwr Y canwr ar ben ei hun yn canu Mae'n Mardi-Gras ym Mangor Ucha' Calypso ar wefus pob un Pobl Ed Povey yn chwerthin o'r walia A'r canwr Y canwr Y canwr ar ben ei hun
Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out