Top Songs By Sobin a'r Smaeliaid
Lyrics
Mae'r hen olwynion yn troi
Mae ces gitâr wedi'i gloi
O'r estron dir rhaid i'm ffoi
(Nôl, nôl, nôl)
Nôl yn ôl atat ti
Mi welaf Gymru cyn hyn
Drwy glwydi Wynedd rhaid mynd
I Besda bach ger y llyn
(Nôl, nôl, nôl)
Gwlad y Rasta gwyn
Mae'r graig yn tynnu y dyffryn a'r llyn
A finnau wrth ddyfroedd fy Mabylon
Mae'r lechan las a'i hiraeth ynom ni
Gwlad y Rasta gwyn
(Nôl, nôl, nôl)
I'r Eithiopia gwyn
(Nôl, nôl, nôl)
Mi welaf forthwyl a chyn
A rhaff am wddw y dyn
A'r Bwda bach yn gytun
(Nôl, nôl, nôl)
Reu! Tyd â reu i mi
Roedd rhai yn curo â ffyn
A rhai yn sbïo yn syn
O be sy'n digwydd fan hyn?
Yng ngwlad y Rasta gwyn
Mae'r graig yn tynnu y dyffryn a'r llyn
A finnau wrth ddyfroedd fy Mabylon
Mae'r lechan las a'i hiraeth ynom ni
Gwlad y Rasta gwyn
(Nôl, nôl, nôl)
I'r Eithiopia gwyn
(Nôl, nôl, nôl)
Gwlad y brodyr gwyn
(Nôl, nôl, nôl)
I wlad y Rasta gwyn
(Nôl, nôl, nôl)
Gwranda ar y riff a tynna'r sbliff
Gwna dy fŵf a dilyn y grŵf
Cofio Marley a Haile Selassie
Bandia'n dynn
Hefo'r Rasta gwyn
(Nôl, nôl, nôl)
I'r Eithiopia gwyn
(Nôl, nôl, nôl)
Gwlad y brodyr gwyn
(Nôl, nôl, nôl)
I wlad y Rasta gwyn
(Nôl, nôl, nôl)
Lyrics powered by www.musixmatch.com