Lyrics

Ma' 'na lawer trai a llanw Wedi golchi dros ein tîr Malwyd gobeithion, chwalwyd breuddwydion A chelwydd yn cuddio'r gwir Ond mae'r creigiau eto'n aros Yn gist i'r oesau a fi Er mor ddwfn yw y creithiau Fe glywn eto'r lleisiau Yn atsain o'r clogwyn du Tra bo hedydd ar y mynydd Tra bo ewyn ar y don Tra bo glas yn nwfn dy lygaid Mi wn mai ni bia' hon Y mae sŵn ym mrîg y morwydd A sibrwd yn y brwyn a'r hesg Ac awel y mynydd yn deffro'r newydd Y gobaith mewn cenedl lesg Fe ddaw'r ddawn o ddwfn y galon A'r hen aelwyd cyneuwm y tân Er mor ddwfn yw y creithiau Fe glywn eto'r lleisiau Yn canu'r hen, hen gân Tra bo hedydd ar y mynydd Tra bo ewyn ar y don Tra bo glas yn nwfn dy lygaid Mi wn mai ni bia' hon Tra bo hedydd ar y mynydd Tra bo ewyn ar y don Tra bo glas yn nwfn dy lygaid Mi wn mai ni bia' hon
Lyrics powered by www.musixmatch.com
Get up to 2 months free of Apple Music
instagramSharePathic_arrow_out