Lyrics

Pob un cam yn oll-gyfarwydd, Ac wrth ffoi o dre dy fedydd ti'n bwrw angor heb fygwth newid. Gweld dy hun fel rhan o'r tirlun, Ti'n troi dy law at boeri gwenwyn, Pam taflu baw ar bob un dieithryn? Tymor ar ôl tymor ti'n clywad newid yn sŵn y don, Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a ddaear, Oes yn eiliad - dyna'r dyddiau'n rhewi, Wyt ti'n gaeth yn dy filltir sgwâr di? Rhaid wrth wae ar droad canrif, Ceisio cwtogi'r anghyfarwydd, Wel, sgen ti ateb aderyn drycin? Llawenhawn yn oll unedig heb daflu gwawd fy mrawd colledig, Cawn weld yr aur ar y wawr drwy'r machlud. Tymor ar ôl tymor ti'n clywad newid yn sŵn y don, Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a daear, Tymor ar ôl tymor ti'n clywad newid yn sŵn y don, Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a daear, Oes yn eiliad a'r dyddiau'n rhewi rhwng dy fodd a'th anfodd. Wyt ti'n gaeth i dy filltir sgwâr di? Ti'n colli arni, ti'n colli arni. Wyt ti'n gaeth i dy filltir sgwâr di? Tymor ar ôl tymor ti'n clywad newid yn sŵn y don, Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a ddaear, Tymor ar ôl tymor ti'n clywad newid yn sŵn y don, Siglo'n ôl a blaen rhwng y nef a ddaear, Oes yn eiliad - dyna'r dyddiau'n rhewi, Wyt ti'n gaeth i dy filltir sgwâr di?
Writer(s): Meilir Gwynedd, Osian Gwynedd, Rhodri Sion, Kevin Tame, Matt Hobbs Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out