Lyrics

Er ei bod hi'n byw Chwilog Mi deithiai bob dydd Ar y tren i Benygroes, a'i gwallt yn chwifio'n rhydd. Mae'r ysgol ar ei hysgwydd Mi deithia hi pob cam Llyfra', 'fala, cocacola a brechdan gan ei mam. Ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen Mi rois fy nghalon iddi hi. Oedd Twm Gwyn a Pansho Yn teithio ar y tren, ond ni chai ddim i neud a nhw Er ei bod hi'n glen. A'r hogiau gyd yn r'ysgol, 'n glafeirio am ei chnawd, Ond gwenu gwnaeth a dweud 'helo' A trin pob un fel brawd. Ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen Mi rois fy nghalon iddi hi. O ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen Mi rois fy nghalon iddi hi. Roedd Llan yn chwara' Chwilog, yn y Gwynedd Cup Lawr i stesion Benygroes, 'Cm'on bois hurry up!' Mi neidiais fewn i'r cerbyd, di colli'n wynt yn lan Ond fe aeth fy gwynt yn gynt, pan welais pwy oedd o'm mlaen. O ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen Mi rois fy nghalon iddi hi. Mae'r gwlad yn gwibio heibio, fel dwr glaw fewn i'r draen Heibio Bryncir a Pantglas Fe aeth y tren ymlaen Mi raid fi ddeud y geiria' Ni'n Afonwen y nawr Ond codi wnaeth a neidio'i ffwrdd, i freichia ryw foi mawr O ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen, Mi rois fy nghalon iddi hi, O ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen, Torrodd fy nghalon, yn stesion Afonwen.
Lyrics powered by www.musixmatch.com
instagramSharePathic_arrow_out