Top Songs By Sobin a'r Smaeliaid
Lyrics
Er ei bod hi'n byw Chwilog
Mi deithiai bob dydd
Ar y tren i Benygroes, a'i gwallt yn chwifio'n rhydd.
Mae'r ysgol ar ei hysgwydd
Mi deithia hi pob cam
Llyfra', 'fala, cocacola a brechdan gan ei mam.
Ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen
Mi rois fy nghalon iddi hi.
Oedd Twm Gwyn a Pansho
Yn teithio ar y tren, ond ni chai ddim i neud a nhw
Er ei bod hi'n glen.
A'r hogiau gyd yn r'ysgol, 'n glafeirio am ei chnawd,
Ond gwenu gwnaeth a dweud 'helo'
A trin pob un fel brawd.
Ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen
Mi rois fy nghalon iddi hi.
O ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen
Mi rois fy nghalon iddi hi.
Roedd Llan yn chwara' Chwilog, yn y Gwynedd Cup
Lawr i stesion Benygroes, 'Cm'on bois hurry up!'
Mi neidiais fewn i'r cerbyd, di colli'n wynt yn lan
Ond fe aeth fy gwynt yn gynt, pan welais pwy oedd o'm mlaen.
O ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen
Mi rois fy nghalon iddi hi.
Mae'r gwlad yn gwibio heibio, fel dwr glaw fewn i'r draen
Heibio Bryncir a Pantglas
Fe aeth y tren ymlaen
Mi raid fi ddeud y geiria'
Ni'n Afonwen y nawr
Ond codi wnaeth a neidio'i ffwrdd, i freichia ryw foi mawr
O ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen,
Mi rois fy nghalon iddi hi,
O ar y tren i Afonwen, mi gollais i fy mhen,
Torrodd fy nghalon, yn stesion Afonwen.
Lyrics powered by www.musixmatch.com